Alert Section

Tai Gofal Ychwanegol


Beth yw Gofal Ychwanegol?

Mae tai gofal ychwanegol yn fath o dai sydd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl hŷn neu bobl sydd angen rhyw lefel o ofal a chymorth i fyw’n annibynnol. Mae tai gofal ychwanegol yn darparu cyfuniad o wasanaethau cymorth ar y safle, gofal personol a chymorth brys 24 awr tra'n caniatáu i bobl gadw eu preifatrwydd a'u hannibyniaeth yn eu llety hunangynhwysol eu hunain. 

Gall nodweddion allweddol tai gofal ychwanegol gynnwys: 

  • Fflat hunangynhwysol gyda'ch lle byw, ystafell wely, ystafell ymolchi a chegin fach eich hun. 
  • Gwasanaethau gofal a chymorth ar y safle i ddiwallu anghenion unigolion sy'n byw yn y cynllun. 
  • Cymorth brys 24 awr i ddarparu help mewn argyfwng
  • Cyfleusterau cymunedol gan gynnwys lolfeydd, bwytai, gerddi a chyfleusterau hamdden a ddefnyddir yn aml ar gyfer ymlacio a chymdeithasu. 

Nod gofal ychwanegol yw darparu amgylchedd cefnogol sy'n hyrwyddo annibyniaeth, rhyngweithio cymdeithasol a lles cyffredinol i'r bobl sy'n byw yno. Mae’n cynnig cydbwysedd rhwng byw’n annibynnol a mynediad at wasanaethau gofal a chymorth, gan sicrhau bod pobl yn cael eu trin â pharch ac urddas mewn amgylchedd cyfforddus. 

Cliciwch yma i wylio ffilm fer ar ein Cynlluniau Gofal Ychwanegol.


Gofal Ychwanegol Llys Raddington, Y Fflint

Mewn partneriaeth, mae Cymdeithas Tai ClwydAlyn a Chyngor Sir y Fflint wedi datblygu ac adeiladu Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Raddington ar gyfer unigolion dros 60 oed ag anghenion gofal a chymorth wedi’u hasesu. 

Mae Llys Raddington yn gynllun Byw’n Annibynnol pwrpasol ar gyfer Pobl Hŷn, sy’n cynnig y cyfuniad unigryw o ffordd o fyw annibynnol i chi, wedi’i ategu gan ofal a chymorth hyblyg ar y safle yn ôl yr angen, gan roi tawelwch meddwl i chi nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Mae’r cynllun yn cynnwys 73 o fflatiau gofal ychwanegol o ansawdd uchel i’w rhentu, sy’n bodloni ystod eang o anghenion cymorth. Mae 15 o'r fflatiau wedi'u dylunio a'u haddasu'n benodol ar gyfer pobl hŷn sy'n colli’r cof neu'n byw gyda dementia. 

Mae pob fflat wedi'i gyfarparu â'r offer system teleofal a diogelwch uwch-dechnoleg ddiweddaraf, gan sicrhau bod help neu gymorth o fewn cyffyrddiad â botwm. Y nod yw cynnal annibyniaeth cyn belled ag y bo modd, gyda chefnogaeth gofal a chymorth yn ôl yr angen.

Mae cynllun Byw’n Annibynnol Llys Raddington ar gyfer Pobl Hŷn mewn lleoliad cyfleus yng nghanol y Fflint, gydag amwynderau lleol a siopau o fewn pellter cerdded. Mae prif gysylltiadau trafnidiaeth yn hawdd eu cyrraedd, gyda gorsaf drenau prif lein ac arosfannau bysiau i gyd gerllaw yng nghanol y dref. Mae'r dref wedi'i lleoli ar y brif ffordd arfordirol, ac mae'n daith fer o wibffordd yr A55 i roi mynediad hawdd i weddill gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.

Darperir gwasanaethau rheoli tai a gwasanaethau ategol ar y safle gan Gymdeithas Tai ClwydAlyn, tra bod Cyngor Sir y Fflint yn darparu gofal cartref ar y safle, i denantiaid ag angen a aseswyd. Rhoddir blaenoriaeth i drigolion ardal Sir y Fflint.

Nodweddion Allweddol:

  • Fflatiau 1 a 2 ystafell wely i'w rhentu, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd
  • Gofal a chymorth ar y safle i unigolion ag angen a aseswyd
  • Preifatrwydd ac annibyniaeth trwy fflatiau hunangynhwysol
  • Gerddi cymunedol wedi'u tirlunio
  • Parcio ar y safle
  • Bwyty, yn gweini prydau ffres bob dydd
  • Ystafell golchi dillad
  • Ystafell aml-weithgaredd
  • Lolfa Preswylwyr
  • Ystafelloedd ymolchi â chymorth ar wahân
  • Ystafell Gwesteion, i alluogi ffrindiau neu berthnasau i aros draw mewn cyfnod o angen
  • Storfa Bygis

Am fwy o wybodaeth ynghylch y cynllun, ewch i wefan Clwyd Alyn.

 

E-bost: help@clwydalyn.co.uk 

Rhadffôn: 0800 183 5757


Gofal Ychwanegol Llys Eleanor, Shotton

Cyfle am ffordd annibynnol o fyw wedi'i hategu gan ofal a chymorth yn ôl yr angen, gan roi tawelwch meddwl i chi nawr ac i'r dyfodol.

Mewn partneriaeth, mae Cymdeithas Tai ClwydAlyn a Chyngor Sir y Fflint wedi datblygu ac adeiladu Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Eleanor ar gyfer unigolion dros 60 oed ag anghenion gofal a chymorth wedi’u hasesu. 

Mae Llys Eleanor yn gynllun Byw’n Annibynnol pwrpasol ar gyfer Pobl Hŷn, sy’n cynnig y cyfuniad unigryw o ffordd o fyw annibynnol i chi, wedi’i ategu gan ofal a chymorth hyblyg ar y safle yn ôl yr angen, gan roi tawelwch meddwl i chi nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Mae’r cynllun yn cynnwys 50 o fflatiau gofal ychwanegol o ansawdd uchel i’w rhentu, sy’n bodloni ystod eang o anghenion cymorth. 

Mae pob fflat wedi'i gyfarparu â'r offer system teleofal a diogelwch uwch-dechnoleg ddiweddaraf, gan sicrhau bod help neu gymorth o fewn cyffyrddiad â botwm. Y nod yw cynnal annibyniaeth cyn belled ag y bo modd, gyda chefnogaeth gofal a chymorth yn ôl yr angen.

Mae Llys Eleanor yn nhref Shotton, ger arfordir Gogledd Cymru. Mae’n hawdd i’w gyrraedd trwy'r cysylltiadau trafnidiaeth cyfleus. Mae cyfleusterau a siopau lleol o fewn pellter cerdded byr i ffwrdd, gan gynnwys arosfannau bysiau a'r orsaf reilffordd, gan roi mynediad hawdd i chi i ardaloedd eraill.

Darperir gwasanaethau rheoli tai a gwasanaethau ategol ar y safle gan Gymdeithas Tai ClwydAlyn, tra bod Cyngor Sir y Fflint yn darparu gofal cartref ar y safle, i denantiaid ag angen a aseswyd. Rhoddir blaenoriaeth i drigolion ardal Sir y Fflint.

Nodweddion Allweddol:

  • Fflatiau 1 a 2 ystafell wely i'w rhentu, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd
  • Preifatrwydd ac annibyniaeth trwy fflatiau hunangynhwysol 
  • Gofal a chymorth ar y safle i unigolion ag angen a aseswyd
  • Parcio ar y safle 
  • Gerddi cymunedol wedi'u tirlunio 
  • Ystafell Haul 
  • Bwyty, yn gweini prydau ffres bob dydd
  • Lolfa Preswylwyr
  • Ystafell golchi dillad 
  • Salon gwallt
  • 2 ystafell ymolchi â chymorth 
  • Ystafell hobïau
  • Ystafell sinema
  • Campfa â chyfleusterau llawn
  • Llyfrgell ac Ystafell TG
  • Ystafell westeion
  • Storfa Bygis

Am fwy o wybodaeth ynghylch y cynllun, ewch i wefan Clwyd Alyn.

E-bost: help@clwydalyn.co.uk

Rhadffôn: 0800 183 5757


Gofal Ychwanegol Llys Jasmine, Yr Wyddgrug

Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Jasmine, a grëwyd gan Gymdeithas Tai Wales & West mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru i gynnwys fflatiau arbenigol ar gyfer pobl sy’n colli’r cof neu sy’n byw gyda dementia, pan agorodd yn 2013.

Mae gan Gynllun Gofal Ychwanegol Llys Jasmine 61 o fflatiau a gynlluniwyd i gefnogi unigolion ag ystod eang o anghenion a aseswyd ac sydd dros 65 oed i fyw'n annibynnol cyhyd ag y gallant.

Mae pob fflat wedi'i gyfarparu â'r offer system teleofal a diogelwch uwch-dechnoleg ddiweddaraf, gan sicrhau bod help neu gymorth o fewn cyffyrddiad â botwm. Y nod yw cynnal annibyniaeth cyn belled ag y bo modd, gyda chefnogaeth gofal a chymorth yn ôl yr angen.

Mae Llys Jasmine ychydig funudau o ganol y dref farchnad hanesyddol, fywiog hon a’i chyfoeth o amwynderau hanfodol.

Darperir gwasanaethau rheoli tai a gwasanaethau ategol ar y safle gan Gymdeithas Tai Wales and West, tra bod Cyngor Sir y Fflint yn darparu gofal cartref ar y safle, i denantiaid ag angen a aseswyd. Rhoddir blaenoriaeth i drigolion ardal Sir y Fflint.

Nodweddion Allweddol:

  • 61 o fflatiau un a dwy ystafell wely, gan gynnwys 15 o fflatiau wedi'u haddasu'n arbennig ar gyfer pobl â dementia.
  • 2 fyngalo dwy ystafell wely 
  • Gofal a chymorth ar y safle a ddarperir gan Gyngor Sir y Fflint
  • Ystafelloedd cawod en-suite y gellir cerdded i mewn iddynt a cheginau cyfoes wedi'u gosod yn llawn (ac eithrio nwyddau gwyn); mae gan lawer o fflatiau falconïau.
  • Ystafell ymolchi â chymorth
  • Bwyty'r White Petal, yn gweini prydau ffres bob dydd.
  • Ardaloedd lolfa ac ystafell i westeion.
  • Cyfleusterau golchi dillad.
  • Gerddi wedi'u tirlunio.
  • Terasau.
  • Storfa bygis.
  • Triniwr gwallt.
  • Gweithgareddau cymunedol rheolaidd ar y safle.

Mae’r fflatiau ar gael i’w rhentu, neu i’w prynu, gan Gymdeithas Tai Wales & West ar gyfer y bobl hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. 

I gael rhagor o fanylion gan gynnwys rhent a thaliadau gwasanaeth, prisiau gwerthu, a’r meini prawf cymhwysedd, ewch i wefan Tai Wales a West.

Email: contactus@wwha.co.uk

Freephone: 0800 052 2526


Gofal Ychwanegol Plas Yr Ywen, Treffynnon

Wedi’i agor yng ngwanwyn 2020, mae cynllun Tai Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen wedi’i greu gan Gymdeithas Tai Wales & West mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint. Ar safle hen Ysgol Perth y Terfyn, mae coetir hynafol wedi'i gadw ar y tiroedd i drigolion allu cerdded drwyddo a'i fwynhau. 

Mae gan Blas yr Ywen 55 o fflatiau a gynlluniwyd i gefnogi unigolion ag ystod eang o anghenion a aseswyd ac sydd dros 50 oed i fyw'n annibynnol cyhyd ag y gallant.

Mae pob fflat wedi'i gyfarparu â'r offer system teleofal a diogelwch uwch-dechnoleg ddiweddaraf, gan sicrhau bod help neu gymorth o fewn cyffyrddiad â botwm. Y nod yw cynnal annibyniaeth cyn belled ag y bo modd, gyda chefnogaeth gofal a chymorth yn ôl yr angen.

Mae Plas yr Ywen ychydig funudau o ganol y dref hanesyddol hon a’i mwynderau.

Darperir gwasanaethau rheoli tai a gwasanaethau ategol ar y safle gan Gymdeithas Tai Wales and West, tra bod Cyngor Sir y Fflint yn darparu gofal cartref ar y safle, i denantiaid ag angen a aseswyd. Rhoddir blaenoriaeth i drigolion ardal Sir y Fflint.

Nodweddion Allweddol:

  • Ystafelloedd cawod en-suite y gellir cerdded i mewn iddynt.
  • Ceginau cyfoes wedi'u gosod yn llawn (ac eithrio nwyddau gwyn).
  • Ystafelloedd ymolchi â chymorth.
  • Gofal a chymorth ar y safle a ddarperir gan Gyngor Sir y Fflint.
  • Bwyty ar y safle, yn gweini prydau ffres bob dydd.
  • Ardaloedd lolfa.
  • Ystafell westeion.
  • Cyfleusterau golchi dillad.
  • Gerddi wedi'u tirlunio.
  • Terasau.
  • Storfa bygis.
  • Gweithgareddau cymunedol rheolaidd ar y safle.

Mae’r fflatiau ar gael i’w rhentu, neu i’w prynu, gan Gymdeithas Tai Wales & West ar gyfer y bobl hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

I gael rhagor o fanylion gan gynnwys rhent a thaliadau gwasanaeth, prisiau gwerthu, a’r meini prawf cymhwysedd, ewch i wefan Tai Wales a West.

E-bost: contactus@wwha.co.uk

Rhadffôn: 0800 052 2526