Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ddisgyblion Cynradd (UPFSM) - Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau fod pob plentyn sy’n mynychu ysgolion cynradd yng Nghymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan y cynllun prydau ysgol am ddim cyffredinol mewn ysgolion cynradd (UPFSM) erbyn 2024, waeth beth fo lefel incwm y cartref. Ni fydd unrhyw ffurflenni i’w llenwi. Nid yw derbyn prydau ysgol am ddim o dan y cynllun UPFSM yn golygu bod gan deuluoedd hawl awtomatig i dderbyn budd-daliadau eraill megis grant hanfodion ysgol.
Ar gais llwyddiannus am eFSM, mae teuluoedd wedyn yn gymwys i gael budd-daliadau eraill i dalu cost hanfodion ysgol fel gwisg ysgol. Yn ogystal â theuluoedd, mae ysgolion hefyd yn elwa ar eFSM. Ar gyfer pob plentyn sy'n gwneud cais am ac yn cael eFSM, gall eu hysgol hefyd gael mynediad at gyllid a elwir y Grant Datblygu Disgyblion. Mae'r cyllid hwn yn £1,150 fesul plentyn sy'n gymwys ar gyfer eFSM. Mae’n bwysig, nawr bod y cynllun UPFSM wedi’i gyflwyno, bod teuluoedd cymwys yn parhau i ddilyn y broses ymgeisio eFSM er mwyn peidio â cholli allan ar fudd-daliadau eraill, ond hefyd fel nad yw eu hysgol yn colli allan ar gyllid hanfodol.
I gael mwy o wybodaeth am eFSM a grant hanfodion ysgol ewch i:
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Education-Benefits.aspx